Welcome to Parthian, publishers of fiction, poetry and drama.

 

Parthian Carnival / Writers in translation

Noddir gan:

www.ilcaduceo.it & www.welshwritingfortheworld.com

Mae ein cynllun o gyfieithu gweithiau blaenllaw mewn ieithoedd tramor yn parhau i fod yn nodwedd bwysig o’n gweledigaeth fel gwasg.

Ceir blas o’r llyfrau sydd eisoes yn cael eu cyfieithu gan Parthian islaw yn ogystal a llyfrau wedi eu hysgrifennu yn wreiddiol yn y Saesneg ond a allai fod o ddiddordeb i gyfieithwyr a chyhoeddwyr mewn ieithoedd eraill.

Cafodd Sota la pols  gan Jordi Coca ei gyhoeddi yn 2001 yng Nghatalaneg ac mae’n ymddangos yn yr iaith Saesneg fel Under the Dust ym mis Mawrth 2007.

Bydd Fever gan yr awdur addawol Gwyddelig Gerard Feehily yn cael ei gyhoeddi ym Mis Tachwedd 2007.

Bydd Martha, Jac a Sianco yn cael ei chyhoeddi yn Saesneg am y tro cyntaf yn 2007. Enillodd y nofel hon wobr Llyfr Y Flwyddyn 2005 i’w hawdures Caryl Lewis. Cyfieithwyd gan Gwen Davies.

The Bridge Across the River fydd nofel gyntaf yr awdur Almaeneg Johannes Gramich yn yr iaith Saesneg. Bydd hon yn ymddangos yn 2008.

Look Me in the Eye (Mira’m als ulls) fydd nofel gyntaf yr awdur Catalanaidd Sílvia Soler yn y Saesneg. Bydd hon yn ymddangos yn 2008 wedi ei chyfieithu gan Richard Thomson.

Bydd Gwlad y Basg yn cael ei gynrhychioli mewn casgliad o straeon wrth awuron yn cynnwys Bernardo Atxaga, Iban Zaldua a Arantxa Iturbe yn 2007.

Bydd nofel Olga Merino Espuelas de Papel yn cael ei chyfieithu i’r Saesneg gan y nofelydd Aneurin Gareth Thomas fel Paper Spurs. Bydd nofel Thomas ei hun, Luggage from Elsewhere ar gael wrth Parthian yn 2006.

I barhau gyda’r thema Sbaeneg yn 2008 fe fydd yna gyfieithad o lyfr Ignacio Martínez de Pisóns' Enterrar a los Muertos ar y rhyfel sifil ar gael yn y Saesneg. Cyfieithir y gyfrol gan y cyfieithydd adnabyddus Anne McLean To Bury the Dead.

Disgwylir i’r nofelau Kilburn Hoodoo gan Hayley Long a The Long Dry gan Cynan Jones gyflyrru diddordeb sylweddol o ran cyfieithiadau yn 2007.

Mae awduron Parthian sydd eisoes wedi cael eu cyfieithu neu sydd yn y broses o gael eu cyfieithu ar fin ymddangos mewn Sbaeneg, Rwseg. Eidaleg, Tsieceg, Portiwgaleg a Daneg.

Bydd nofel Richard Gwyn The Colour of a Dog Running Away yn ymddangos mewn pum iaith trwy gydol 2006/7 yn ogystal a ymddangos yn yr Unol Daleithiau gyda Doubleday yng Ngwanwyn 2007.

Bydd cyfrol Jo Mazelis’s o straeon byrion Diving Girls yn ymddangos yn Daneg.

Bydd The Tower gan Tristan Hughes yn ymddangos yn yr iaith Tsieceg.

Cafodd llyfr cyntaf Rachel Trezise In and Out of the Goldfish Bowl ei gyhoeddi yn Eidaleg gan Einaudi fel La Mia Pelle Sporca.

Mae ein cyfres Llyfrgell Genedlaethol yn cynnwys clasur Gwyn Thomas a fydd yn ymddangos yn yr iaith Sbaeneg yn 2008 gan Siruela Editions.

Cyfieithwyd nofel Gymraeg Robin Llewelyn Seren Wen,i’r Saesneg yn gyntaf gan Gwen Davies. Mae hi eisoes wedi cael ei chyhoeddi yn y Ffrangeg hefyd. Gwaith Marie-Thérèse Castay yw’r cyfieithad Ffrangeg ac fe ymddagosir y llyfr yng nghyfres Bibliothèque galloise gan wasg Terre de Brume. Bydd casgliad Robin o straeon byrion Y Dwr Mawr Llwyd (The Big Grey Water)  yn ymddangos yn y Saesneg yn 2008 drwy law y cyfieithwr Gwyddelig Diarmuid Johnson yng ngofal Parthian.

Am ymholiadau yn ymwneud a hawliau cyfieithu yn y Saeneg neu’r Gymraeg cysylltwch a Marinella Magri yn Il Caduceo www.ilcaduceo.it neu sarah penrhyn jones yn Llenyddiaeth Cymru Dramor www.welshlitabroad.org

Am unrhyw ymholiad arall cysylltwch a:

rich_parthian@yahoo.co.uk

e-mail: info@parthianbooks.co.uk

 

The Old Surgery
Napier Street
Aberteifi
Ceredigion
SA43 1ED
The Norah Isaac Building
Trinity College
College Road
Carmarthen
SA31 3EP

Home