Lock iconRectangle 1Rectangle 2 + Rectangle 2 CopyShapeRectangle 1

Alys Conran

Pijin (Welsh Language)

  • Sale
  • £9.99


Cyfiethwyd i'r Gymraeg gan y bardd a'r awdur Sian Northey. 

Mae fan hufen iâ yn stryffaglu i fyny’r allt trwy’r cenllysg. Rhed bachgen a merch ar ei hôl a’i dilyn i gaddug eu dychymyg. Clywir eu lleisiau cyfareddol yn adrodd stori sy’n chwalu mur plentyndod ac yn atsian ar draws y blynyddoedd.

Stori am gyfeillgarwch plant a sut y bygythir y cyfeillgarwch hwnnw yw Pijin. Dyma drasiedi rymus sydd ar adegau’n eithriadol ddoniol. Fel yn y Saesneg gwreiddiol mae’r ddwy iaith yn rhan anhepgor o wead stori am euogrwydd, am golli iaith a cholli diniweidrwydd ac am y math o gariad all oresgyn hyn i gyd.

Pan gyhoeddodd Parthian Pijin yn 2016 roedd yn nodi llenyddol cyntaf yng Nghymru oherwydd oedd yr tro cyntaf i lyfr yn yr iaeth Cymraeg a Seasneg cael ei chyhoeddi ar yr un diwrnod. 

Mae Pijin wedi cael ei addasu i'r llwyfan gan Bethan Marlow mewn cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, mewn cydweithrediad â Pontio. 

Tocynnau ar gael nawr - https://theatr.cymru/en/shows/pijin-pigeon/