Lock iconRectangle 1Rectangle 2 + Rectangle 2 CopyShapeRectangle 1

John Sam Jones

Y DAITH YDI ADRA: STORI GŴR AR Y FFIN (Welsh Language, Hardback)

  • Sale
  • £15


 

Enillydd Gwobr Stonewall

Atgofion cyfareddol John Sam Jones o’i fywyd ar y ffin.

Mae’n stori am deithiau ac am ddealltwriaeth, am dderbyniad ac am lawenhau.

Cawn ei hanes o’i blentyndod yn Bermo i’r cyfnod cythryblus pan oedd yn fyfyriwr israddedig yn Aberystwyth, o ysgoloriaeth a’i galluogodd i fynd i Berkeley yn San Francisco ar yr adeg pan oedd AIDS yn lledaenu ar ras, cyn dychwelyd i Lerpwl ac i ogledd Cymru i weithio fel caplan ac yna ym maes gwaith cymdeithasol ac iechyd rhyw. Mae’n daith a’i harweiniodd i fod yn awdur a ddefnyddiodd ei brofiadau i greu ffuglen a enillodd wobrau, ac a’i hysgogodd i ddod yn ymgyrchydd, anfoddog braidd, dros hawliau LGBT yng Nghymru. Cawn glywed am yr antur o gadw Gwely a Brecwast yn Bermo, gyda’i ŵr, academydd Almaenig, eu priodas ar ôl partneriaeth hir, a’i gyfnod fel Maer Bermo.
Ddyddiau’n unig ar ôl y Refferendwm ar Ewrop penderfynodd y ddau werthu’r busnes a symud i’r Almaen. Mae
taith John Sam yn parhau.

Ar ôl mwy na deng mlynedd ar hugain o fod yn gweinidogaethu fel caplan, yn gweithio ym myd addysg a gweithio ym maes iechyd cyhoeddus mae John Sam Jones bellach wedi lled-ymddeol ac yn byw gyda’i ŵr a’u dau gi defaid Cymreig mewn pentref bach yn yr Almaen, dafliad carreg o’r ffin â’r Iseldiroedd. Sylweddolodd John ei fod yn hoyw pan oedd yn ei arddegau yn y 1970au a dod i ddeall yn fuan y byddai’n byw ei fywyd ar y ffiniau – y ffin rhwng gwir a chelwydd, y ffin rhwng cael ei wrthod a chael ei watwar, y ffin rhwng amau’i hun a’i daith i gael ei dderbyn. Yn y diwedd dewisodd gerdded llwybr lle nad oedd ei onestrwydd a’i ddiffuantrwydd bob tro’n cael ei werthfawrogi gan gymdeithas a oedd yn aml yn chwyrn o homophobig. Yn 2001 ef oedd cyd-gadeirydd cyntaf LGB Forum Cymru (a ddaeth yn ddiweddarach yn Stonewall Cymru), corff a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion LGB.

Astudiodd ysgrifennu creadigol yng Nghaer, a dyfarnwyd ei gasgliad o straeon byrion – Welsh Boys Too – yn ‘Honor Book’ yng Ngwobrau Llyfrau Stonewall yr American Library Association. Bu ei ail gasgliad, Fishboys of Vernazza, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn, ac yn dilyn hynny cyhoeddodd ddwy nofel – With Angels and Furies a Crawling Through Thorns.

"This beautifully constructed and moving book is a story of a life lived on the margins, and a search for home and belonging.  Like a precious stone, the book’s multiple facets reflect different parts of the journey which glisten and dazzle. John Sam Jones vividly explores his sexuality, scarred by a homophobic culture and time, discovers family secrets, confronts shame and guilt, institutional abuse and sexual violence, explores his faith and friendships, and eventually finds deep and enduring love. And through and in that journey, lived always on the edges, he discovers joy and fulfilment, and finds his way home."
Jeffrey Weeks, author of Coming Out
"Mae’r llyfr celfydd a theimladwy hwn yn adrodd stori bywyd ar y ffiniau. Fel gem werthfawr amlochrog adlewyrcha wahanol rannau o’r daith a phob un ohonynt yn disgleirio. Mae John Sam Jones yn ymdrin â’i rywioldeb, ac â’r creithiau a grëwyd gan gyfnod a diwylliant homoffobig, mae’n wynebu gwarth a chywilydd, cam-drin sefydliadol a thrais rhywiol, mae'n dysgu am gyfrinachau teuluol, mae’n sôn am ei ffydd ac am ei ffrindiau, ac ar y ffordd mae’n profi cariad dwfn a pharhaol. Ac yn ystod y daith honno ar y ffiniau, a thrwy gyfrwng y daith honno, mae’n darganfod boddhad a llawenydd, ac yn darganfod ei ffordd adra."
Jeffrey Weeks, awdur y Coming Out

More praise for John Sam Jones:

Welsh Boys Too 

“Mae casgliad hudol, meddylgar John Sam Jones o straeon Cymreig, Welsh Boys Too, yn hyfrydwch i’w ddarllen.” Sebastian Beaumont, Gay Times

“Hugely enjoyable” The Big Issue

“Casgliad dewr ac anturus.” The Western Mail

Fishboys of Vernazza

“Mae’r casgliad main celfydd hwn yn bleser pur.” Peter Burton, Gay Times

“These stories are sometimes poignant, often witty and always perceptive. As he grows older, John Sam Jones is becoming raunchier.” John Davies, awdur

Hanes Cymru

“clyfar, ingol a threiddgar…” Daily Post

Crawling Through Thorns

“Llyfr heriol a gafaelgar – torcalonnus yn aml, ond yn sylfaenol ddyrchafol.” Suzy Ceulan-Hughes, GWALES.com