Lock iconRectangle 1Rectangle 2 + Rectangle 2 CopyShapeRectangle 1
Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref: Dod â Chymru ac India ynghyd drwy lenyddiaeth

Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref: Dod â Chymru ac India ynghyd drwy lenyddiaeth

Mae gan gynulleidfaoedd yng Nghymru y cyfle i glywed gan chwe awdur, tri o Gymru a thri o India, sy’n cymryd rhan yn nhymor diwylliant 2017 rhwng y DU ac India. Mae’r awduron eisoes wedi gweithio gyda’i gilydd yn India a byddant yn ymddangos mewn nifer o ddigwyddiadau yng Nghymru, fel rhan o brosiect India Cymru, Y  Cwm, Y Ddinas, Y Pentref.

Bydd yr awduron o Gymru, sef Natalie Ann HolborowSiôn Tomos Owen a Sophie McKeand yng nghwmni’r awduron o India, sef Aniesha BrahmaSrijato Bandyopadhyay ac Arunava Sinha. Daethpwyd â’r awduron ynghyd gan y cyhoeddwr o Gymru, Parthian Books, Bee Books yn Kolkata, Llenyddiaeth Cymru ac Wales Arts Review, ar gyfer eu prosiect newydd, sef Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref.

Cefnogir y prosiect is gan India Cymru, cynllun ariannu newydd gan y British Council a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae’r cynllun yn cynorthwyo cydweithrediad a chyfnewid artistig rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ac India a fydd yn meithrin rhwydweithiau a chydberthnasau cynaliadwy, creadigol rhwng y ddwy wlad.

Mae Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref yn dod â chwe awdur ynghyd mewn cyfres o gyfnodau preswyl a pherfformiadau byw, a fydd yn arwain at gyhoeddi deunydd ysgrifennu newydd yn deirieithog yn Fengaleg, Saesneg a Chymraeg i’w gyhoeddi gan Parthian yn 2018. Mae’r prosiect yn ymgorffori rhyddiaith, barddoniaeth, celf a chroniclad o Fengâl a Chymru. Bydd cylchgrawn lliw arbennig 48 tudalen yn dathlu Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref hefyd yn cael ei lansio ar 26 Mai, yn cynnwys cyfraniadau gan bob awdur.

Bydd awduron Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref yn cymryd rhan yng nghwrs Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ‘Cerddi ar ôl Cerddi’ gyda Menna Elfyn a Paul Henry, 2-4 Mehefin, yn ogystal ag ymweliadau ag ysgolion i gyflwyno gweithdai gyda phlant yn Llansteffan, 6-11 Mehefin.

 

Digwyddiadau cyhoeddus i ddod:

25 Mai

  • Derbyniad Agoriadol a Darlleniad
    Mae cangen Mela Cymru 2017 ein prosiect Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref yn dechrau gyda derbyniad agoriadol a darlleniad. Treorci yw’r orsaf drenau agosaf, ac mae safle bws bron yn union y tu allan i’r caffi, ar gyfer y rhai sy’n teithio.
    7.00 – 9.00 pm. Mynediad am ddim, croeso i bawb
    High Street Social, 204 Stryd Fawr, Treorci, CF42 6AT

26 Mai

  • Derbyniad Croesawu Swyddogol a lansiad y cylchgrawn The Valley, The City, The Village 
    Darlleniadau yn Gymraeg, Saesneg a Bengaleg. Mewn cydweithrediad â’r British Council, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Llyfrgell Caerdydd a’r Wales Arts Review.
    12.00 – 2.00 pm. Mynediad am ddim, croeso i bawb
    Llyfrgell Canol Caerdydd, yr Aes, Caerdydd, CF10 1FL
  • Derbyniad a lansiad llyfr gan Lyfrau Parthian 
    A Van of One’s Own gan Biddy Wells gyda darlleniad barddoniaeth ychwanegol gan y bardd ar ymweliad Srijato Bandopadhyay.
    6.00 – 8.00 pm. Mynediad am ddim, croeso i bawb
    Yr Oriel, Stryd y Dwyrain, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0SY

31 Mai

  • Mela’r Gelli 1: And Suddenly You Find Yourself In India
    Srijato BandyopadhyayNatalie Ann HolborowArunava SinhaSophie McKeandAniesha Brahma a Siôn Tomos Owen. Y beirdd yn adrodd ac yn perfformio eu profiad o brosiect India Cymru 2017, Y Cwm Y Ddinas Y Pentref. Cyflwynir gan Gary Raymond.
    5.30 – 6.30 pm, £7.30, tocynnau o www.hayfestival.com (Digwyddiad 292)
    Llwyfan Starlight, Gŵyl y Gelli 2017, Y Gelli Gandryll, Cymru

1 Mehefin

  • Darlleniad barddoniaeth liw nos a lansiad llyfr
    Lansiad Rebel Sun gyda Sophie McKeand mewn cydweithrediad â’r mudiad gair llafar bywiog Voicebox.
    7.00 – 10.00 pm. Mynediad am ddim, croeso i bawb.
    Undegun, 11 Stryt y Rhaglyw, Wrecsam, LL11 1SG
    www.facebook.com/events/352536771815188/

4 Mehefin

  • Darlleniad barddoniaeth yn y prynhawn
    Gyda Siôn Tomos OwenSrijato Bandyopadhyay, a Natalie Ann Holborow.
    3.00 – 4.00 pm. Mynediad am ddim, croeso i bawb.
    Palas Print, 10 Stryd y Plas, Caernarfon, LL55 1RR

8 – 10 Mehefin

  • Gŵyl Llansteffan
    Ymunwch â ni yn y Gorllewin Gwyllt llenyddol ar gyfer Gŵyl Llansteffan, gyda darlleniadau, adrodd straeon, ymweliadau ysgol, taith bws lenyddol ac ymweliad â Fern Hill.
    Digwyddiadau gyda thocynnau, lleoliadau amrywiol, Llansteffan, Sir Gâr