Mae fan hufen iâ yn stryffaglu i fyny’r allt trwy’r cenllysg. Rhed bachgen a merch ar ei hôl a’i dilyn i gaddug eu dychymyg. Clywir eu lleisiau cyfareddol yn adrodd stori sy’n chwalu mur plentyndod ac yn atsian ar draws y blynyddoedd.
Stori am gyfeillgarwch plant a sut y bygythir y cyfeillgarwch hwnnw yw Pijin. Dyma drasiedi rymus sydd ar adegau’n eithriadol ddoniol. Fel yn y Saesneg gwreiddiol mae’r ddwy iaith yn rhan anhepgor o wead stori am euogrwydd, am golli iaith a cholli diniweidrwydd ac am y math o gariad all oresgyn hyn i gyd.
• Bydd y nofel Saesneg wreiddiol (ISBN 978-1-910901-23-6) yn cael ei chyhoeddi ar yr un pryd.
• Mae ffuglen, barddoniaeth a chyfieithiadau Alys wedi ennill clod mewn sawl cystadleuaeth, gan gynnwys y Bristol Short Story Prize a’r Manchester Fiction Prize.
• Mae enw Alys yn cael ei gynnig ar gyfer digwyddiad yng Ngŵyl Caeredin 2016.
• Hwn yw un o’r wyth llyfr sydd yn rhan o’r Parthian Europa Carnivale, prosiect uchelgeisiol o gyfieithiadau llenyddol gan y wasg.
• Cyfieithwyd y nofel i’r Gymraeg gan y bardd a’r awdur Sian Northey.